Cynhwysion
450g blawd hunan-godi
225g menyn
225g siwgwr
¼ llwy de nytmeg ffres
¼ llwy de sbeis cymysg
pinsiad o halen
60g o groen ffwythau
120g o gwrens
180g o sultanas
3 wy
300ml te poeth
6 llwy fwrdd o lefrith
1 llwy fwrdd o farmalêd
1 llwy fwrdd o driog melyn
Yn gyntaf dylid paratoi te cryf poeth. Dylid ychwanegu hwn i'r ffrwythau a'u gadael wedi eu gorchuddio dros nos. Y diwrnod wedyn dylid hidlo'r blawd i fowlen ac ychwanegu'r sbeis a'r nytmeg a phinsed o halen. Wedi torri'r menyn yn sgwaraid dylid ei ychwanegu i'r blawd a'i rwbio i fewn gyda blaenau'r bysedd. Wedi tynnu'r ffrwythau o'r te dylid eu ychwanegu i'r cymysgedd blawd a menyn ynghyd a'r siwgwr a'u cymysgu'n drwyadl. Wedi curo'r wyau gyda'r llefrith dylid ychwanegu hwn a'i guro i fewn i'r cymysgedd. Yn olaf, ychwanegu'r marmalêd a'r triog melyn. Wedi iro tun pobi bara hanner cilo (a leinio hwn gyda papur pobi) dylid arllwys y gymysgedd iddo a'i osod mewn popty a gynheswyd i 170°C ar ol chwarter awr dylid tynnu'r gacen allan a rhoi papur pobi am ei ben i arbed llosgi cyn ei ddychwel i'r poptu am tua ugain munud arall.
Ingredients:
450g self-raising flour225g butter
225g sugar
¼ tsp freshly-grated nutmeg
¼ tsp mixed spice
pinch of salt
60g mixed peel
120g currants
180g sultanas
3 eggs
300ml hot tea
6 tbsp milk
1 tbsp marmalade
1 golden syrup
No comments:
Post a Comment